E-bost: holi@bgc.org.uk

Text Box: welcome
Text Box: croeso

Clwb Gymnasteg Bangor   

Bangor Gymnastics Club

Mae Clwb Gymnasteg Bangor yn glwb gyfeillgar sy'n cynnig hyfforddiant gymnasteg o safon uchel i blant o bob oedran.

 

Mae'r clwb yn cael ei gynnal mewn neuadd gymnasteg sydd wedi'i leoli yn barhaol yng Nghanolfan Hamdden Prifysgol Cymru Bangor. Mae gennym lawr maint llawn, trac twmblo gyda sbring gwydr ffibr, a bariau a chylchoedd wedi'u gosod dros bwll o sbwng.  Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddiant amrywiol a chynhwysfawr sydd yn addas ar gyfer pob safon.

 

ae'r staff hyfforddi yn cael eu harwain gan Stan Buckley. Er iddo ymuno â'r clwb yn 1997, mae wedi cynorthwyo i weddnewid y clwb gan gyflwyno safon uchel o hyfforddiant a brwdfrydedd. Y tu nol i'r llenni mae'r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor rhieni.

Hanes Clwb Gymnasteg Bangor

Cychwynodd Clwb Gymnasteg Bangor yn 1981, a’i enw swyddogol hyd heddiw yw Clwb Gymnasteg Bangor 81. Ar y pryd, roedd y cyfleusterau ym Mangor ymysg y gorau ym Mhrydain - llawr parhaol ar gyfer cystadlaethau, trac twmblo a phwll o sbwng. Yn ystod yr 80au, daeth llawer o gymnasts arbennig o Fangor. Y mwyaf llwyddiannus oedd David Griffiths ddaru gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 1990.

Yn y 90au, roedd pethau wedi dirywio rhywfaint, gyda hyfforddwyr yn ymddeol etc, ond yn 1996, daeth tro ar fyd diolch i griw bach o hyfforddwyr a phwyllgor newydd, brwdfrydig.

Cychwynodd Mair Eluned hyfforddi yn y clwb yn 1996. Ugain o aelodau oedd yno ar y pryd. Roedd hi, a Jayne Raymond ac aelodau eraill o’r pwyllgor yn awyddus i weld y clwb yn ffynnu unwaith eto. Y cam mawr wedyn oedd penodi Stan Buckley fel Cyfarwyddwr Hyfforddi – roedd o newydd symud i’r ardal o Buckley, sir Fflint.

Mae’r Clwb wedi mynd o nerth i nerth.

 

Cysylltiadau Defnyddiol

 

Buckley Gymnastics Club

 

Maes Glas Leisure Centre

 

British Gymnastics Associate home page

 

Welsh Gymnastics Association home page

 

 

 

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein safle we neuanfonwch e-bost atom os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Cyflwyniad

 
 

adref